‘Sgol Sŵn - Mae’r Chwedl Roc a Rôl yn parhau dros yr Haf yn Nhŷ Tawe!
Mewn cydweithrediad a’r Urdd a Cherdd Cymunedol Cymru, mae Menter Iaith Abertawe wedi rhoi cyfle’r wythnos hon i bedwar band ifanc i ffurfio ac ymarfer eu sgiliau cerddorol a recordio’r cyfan ar gryno ddisg! Fe luniodd y bandiau enwau, bathodynnau a chrysau-T i hyrwyddo eu grwpiau roc newydd.
Un o’r bandiau oedd yn rhan o’r freuddwyd Roc a Rôl oedd Y Brodyr Coll. Fe gafodd y bois gyfle i recordio eu can “Dawnsio yn y Disgo” o fewn un diwrnod cyn mynd lawr yr M4 i Gaerdydd gyda chopi i chwarae ar C2 Radio Cymru! Roedd band arall o Abertawe, Yr Angen yno hefyd i ddangos yr awenau a chyd gyflwyno wrth gael eu ffilmio ar gyfer newyddion S4C!
Cynllun Y BRAWD MAWR fydd y digwyddiad nesaf gyda’r Fenter
Gwyliwch y gofod!