Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg


 




 

Pobl Ifanc 2

Profiad Brawd Mawr Abertawe

Profiad Brawd Mawr Abertawe
Yr wythnos hon mae Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth a Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe yn rhedeg Profiad y Brawd Mawr. Mae'r profiad yn rhedeg am 3 diwrnod cyfan gyda 22 o gyfranogwyr yn mynd mewn i'r tŷ, gyda'r ennillydd yn cipio £100. Gallwch cadw mewn cysylltiad gyda beth sy'n mynd ymlaen yn y tŷ ar y blog, lle bydd y diweddaraf o'r ty yn cael ei ddangos. Gallwch adael negeseuon a sylwadau ar y dudalen (gan gofio y bydd pob un yn cael ei monitro cyn mynd ar y wefan) Gwefan -
brawdmawr
Profiad Brawd Mawr Abertawe
25/08/2009

Canwn yn Nhy Tawe

Canwn yn Nhy Tawe
Cafwyd noson arbennig yn Nhŷ Tawe nos Wener Mai 22ain, gyda noson o ganu caneuon traddodiadol Cymraeg yn y bar, gyda Iona Herbert yn arwain y canu. Cafwyd perfformiadau anhygoel hefyd gan Heini Gruffudd a Chris Reynolds. Cafodd pawb mynychodd y noson llyfr o ganeuon Cymraeg am ddim. Ar ôl y canu, cafwyd gig arbennig gyda Gai Toms ac Al Lewis yn diddanu’r gynulleidfa.
05/06/2009

Taith Pentre Ifan

Taith Pentre Ifan

Cafodd Bentre’ Ifanc gnoc enfawr gan lu o bobl ifanc o Ysgol Gwyr a Bryn Tawe'r wythnos ddiwethaf. Pwrpas y daith oedd gwobrwyo criw GYTS am ei gwaith caled dros y misoedd diwethaf ar brosiect creu llyfr a DVD i ddathlu 25 mlwyddyn o hanes Gwyr. Cafodd y bobl ifanc brofiad o goginio bwyd ar y Traeth wrth weld yr haul yn machlud yn braf ar draeth Trefdraeth gan ddychwelyd yn ôl i Bentre' Ifan i gynnal Eisteddfod Ddwl a gweithgaredd Her Camera.
Gorffennodd y daith gyda wâc ( wel trip ar y bws ) i weld Cromlech Pentre’ Ifan yna draw i Oakwood am hwyl a Sbri ar y chwyrligwganod wrth i ambell berson ifanc mentrus fentro ar Virtigo!!!
Taith Pentre Ifan
24/06/2009

Taith Tafod

Taith Tafod
Gig yn Milkwoodjam

15/05/09 7.30pm Mynediad £5

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.cymdeithas.org
15/05/2009

 


Top a a a

Ewrop

a