Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg


 




Plant yn cael hwyl yn Gymraeg

Dewiswch
Cymraeg, Kids Soak It Up - Abertawe 13/03/2009
Cylch Ti a Fi Gendros 11/12/2008
Pnawn Plant 20/09/2008
Hwyl Haf 28/07/2008
Adran Penlan 19/09/2007
Hwyl Haf 11/07/2007
Gwersi Nofio i Ddechreuwyr 01/06/2007
Clwb Pêl-rwyd 11/05/2007
Hwyl Hanner Tymor 11/02/2007
HWYL HYDREF 2005 17/10/2005
Hwyl Haf 2005 25/07/2005
Hwyl Hanner Tymor yr Hydref 09/11/2004
Hwyl yn Chwarae dros yr Haf 29/09/2004
Hwyl Hanner Tymor 25/02/2004
PARTI CYLCHOEDD TOWNHILL 27/11/2003
@ Aelwydydd Abertawe 20/11/2003
Cymraeg, Kids Soak It Up - Abertawe
Cymraeg, Kids Soak It Up - Abertawe
Bu Mis Chwefror yn fis prysur iawn i Fenter Iaith Abertawe.

Roedd aelodau’r staff yn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe fel rhan o ymgyrch Bwrdd yr Iaith Gymraeg; “Kids Soak It Up”.

“Mae plant bach yn dysgu iaith yn rhwydd. Maen nhw’n sugno iaith fel mae sbwng yn sugno dwr” - dyna neges Bwrdd yr Iaith Gymraeg trwy’r prosiect, Cymraeg - Kids Soak It Up!

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys ymweliad a dau ysbyty lleol, Clinigau Ol-enedigol y Sir, yr LC2 a Chanolfan Plant Penlan.

Yn ogystal a hyn, trefnwyd Sesiwn Canu Gyda Babi o dan arweiniwyd Swyddog Maes TWF yn Llyfrgelloedd Pontarddulais a Townhill.

Lansiwyd sesiwn misol Canu Gyda Babi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle ymunodd Sam Tan a Sali Mali yn y gweithgareddau. Roedd yna gyfle i gael tynnu llun o’ch plentyn a chael pecynnau llawn gwybodaeth a nwyddau defnyddiol ar ol y canu.

Hefyd cafwyd hwyl yn nathliadau’r Prynhawn Plant ar 7 Mawrth, yn Nhy Tawe. Bu Sam Tan yn cyfarch y plant a cafwyd hwyl yn y sioe Jambori!
Cymraeg, Kids Soak It Up - Abertawe

13/03/2009


Top a a a

Ewrop

a