ADRODDIAD BLYNYDDOL

 

 

2005-2006

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Menter Iaith Abertawe

Tŷ Tawe,

9, Stryd Christina,

Abertawe,

SA1 4EW.

 

Ffôn: 01792 460906

Ffacs: 01792 480964

Cyfieithydd Cymunedol: 01792 652252

Ebost: Swyddfa@menterabertawe.org

Gwefan: menterabertawe.org

 

 

 

 

 

 

 

                      

 

Strwythur rheoli’r Fenter

 

 

Bu rhywfaint o ddatblygiad yn ystod misoedd olaf y flwyddyn ariannol 05-06 gyda phwyllgor rheoli’r Fenter yn ehangu’n sylweddol i gynnws Gweithgor Datblygu’r Fenter. Mae pwyllgor rheoli’r Fenter ar ei newydd wedd yn cwrdd yn ddeufisol i drafod gweithgarwch a datblygiad y Fenter. Mae’r Fenter bellach yn adrodd yn ôl yn ddeufisol i’r pwyllgor rheoli hwnnw yn hytrach nag i bwyllgor Tŷ Tawe, er bod Prif Swyddog y Fenter yn dal i fynychu cyfarfodydd pwyllgor Tŷ Tawe gan fod Cymdeithas Tŷ Tawe yn parhau i fod yn gyflogwyr swyddogol y Fenter. Teimlwyd, â gweithgarwch y Fenter yn datblygu ac yn cynyddu, fod hefyd angen i’r pwyllgor ehangu i roi cyfle i werthuso a thrafod gwaith y Fenter yn gyflawn.

 

Ni fu newidiadau mawr o ran Swyddogion y Fenter yn ystod 05-06, ar wahân i Swyddog Busnes y Fenter. Dechreuodd Emma Francis fel Swyddog Busnes rhan amser ym mis Gorffennaf 05, ond daeth ei chyfnod cyflogaeth i ben ym mis Rhagfyr yn dilyn y ffaith iddi dderbyn swydd amser llawn gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Daeth Lucie Grey i barhau â’r gwaith dros y Nadolig, a hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, pan ddaeth y nawdd ar gyfer y gwaith i ben. Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr iawn i Emma am ei chyfraniad gwerthfawr i’r gwaith yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn ariannol ac i Lucie am barhau â’r gwaith da ar ôl y Nadolig.

Gorfodwyd i’r Fenter hefyd leihau oriau gweithio’r Swyddog Gweinyddol, Llywelyn Rees, o ganlyniad i ddiffyg nawdd. Mae’r Swyddog Gweinyddol bellach yn gweithio 30 awr yr wythnos.

Croesawyd Gethin Jones, sy’n weithiwr ifanc dan hyfforddiant gyda’r CGGA, i’r tîm. Gosodwyd Gethin gyda’r Fenter am gyfnod o 6 mis i weithio ar brosiect arolygu gwasanaethau Cymraeg yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Abertawe. Mae ei gyfnod profiad gwaith gyda’r Fenter wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd Mai 06, i’w alluogi i ddatblygu ei sgiliau ymhellach. (gw. gweithgaredd newydd).

Mae’r ddau Swyddog Maes, Swyddog Cymraeg yn y Gymuned, Cymraeg Morgannwg a’r Cyfieithydd Cymunedol yn aros yr un peth.

Ariannwyd y swyddi hyn drwy nawdd Bwrdd yr Iaith, Amcan 1 Ewrop, Cronfa Treftadaeth y Loteri, Awdurdod Datblygu Cymru, Better Swansea Compact Development Fund a bellach cyfraniad gan y Cyngor Sir trwy eu cronfa ‘Cefnogi’r Iaith Gymraeg’.

 

Diweddarwyd y strategaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r system werthuso blynyddol hefyd yn parhau’n effeithiol. Mae gwaith y Fenter o ddydd i ddydd yn cael ei reoli gan y Prif Swyddog ac yn cael ei rannu a’i werthuso mewn cyfarfodydd staff a chyfarfodydd gwaith gydag unigolion.

 

Mae gweithgorau’r Fenter wedi bod yn weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf.   Cwrddodd gweithgor y dysgwyr sawl gwaith (gw. Noson Dim Treiglo a Phecyn Gwybodaeth Dysgwyr), parhaodd y gweithgor ieuenctid/Eisteddfod i gwrdd a chyfrannu at drafodaethau ynglŷn â’r gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Fel y nodwyd, mae gweithgor datblygu’r Fenter bellach yn ffurfio pwyllgor rheoli’r Fenter a chyfrannodd yn werthfawr at ymgyrch marchanata Addysg Bwrdd yr Iaith a thrafodaeth am gylchlythr newydd y Fenter. Mae gweithgor y Gorllewin a gweithgor y Dwyrain, heb gwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan fod nifer o’r aelodau yn brysur yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, ond mae’r awydd i gydweithio i ddatblygu prosiectau penodol yn yr ardaloedd hynny yn dal i barhau.

 

Mae’r Fenter yn ddiolchgar iawn i’r 50 o wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at weithgareddau’r Fenter drwy gyfrwng y gweithgorau hyn yn ystod y flwyddyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gweithgareddau Cyson

 

 

 

Gwener y Grolsch 

 

Parhaodd llwyddiant nosweithiau Gwener y Grolsch 04-05 ymlaen i 06 gyda’r niferoedd yn uchel yn gyson. Cafwyd ambell i noson dawel yn benodol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gydag amgylchiadau fel dyddiad, arholiadau a’r Eisteddfod (a’i nosweithiau codi arian cyson) yn effeithio. Mae’r nosweithiau hyn yn parhau i ddarparu cyfle i Gymry Cymraeg ifanc Abertawe ddefnyddio’r iaith yn eu hamser hamdden, fodd bynnag, ac maent wedi codi ymwybyddiaeth Cymry Cymraeg ifanc o’r sîn roc Cymraeg. Mae’r nosweithiau hefyd wedi denu sylw cenedlaethol â’r rhaglen ‘Waw Ffactor’ yn ffilmio yn Nhŷ Tawe. Mae Cyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Sir wedi parhau i roi’r cymorth ariannol angenrheidiol sydd ei angen arnom i sicrhau ein bod yn denu bandiau o safon, a’r bandiau y mae’r bobl ifanc yn disgwyl eu gweld. Mae’r cytundeb  blynyddol i ariannu’r nosweithiau yn parhau ac yn ein galluogi i drefnu a chynllunio nosweithiau misoedd o flaen llaw.

 

Mae prif amcan y nosweithiau yn aros yr un peth, sef cyflwyno cerddoriaeth gyfoes Gymraeg i bobl ifanc y sir a chreu cyfleoedd i grwpiau Cymraeg eu hiaith chwarae yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa gwbl newydd ac am dâl da. Gwnaeth y Fenter £250 o incwm yn ystod y flwyddyn, sy’n llai na’r flwyddyn flaenorol. Mae yna reswm da am hyn, oherwydd rydym wedi talu am fandiau cynorthwyol ar gyfer nifer o’r nosweithiau ac yn dilyn newidiadau yng nghytunteb y Cyngor Sir a’r Cyngor Celfyddydau, mae gofyn i ni dalu holl arian y drws yn ôl. (Yn flaenorol, roedd modd i ni gadw £2 o bob tocyn yn ôl fel incwm). O ran y bandiau cynorthwyol, mae’r cyfle y mae’r Fenter yn rhoi iddynt berfformio yn rhoi llwyfan i fandiau ifanc sy’n chwilio am brofiad o chwarae o flaen cynulleidfa fyw  e.e. enillwyr Brwydr y Bandiau 05, ‘No Star’.

 

Mae’r nosweithiau yn dal i ddenu pobl ifanc o’r chweched dosbarth ac maent yn parhau i fod â diddordeb mewn trefnu nosweithiau eu hunain, er ein bod yn ymwybodol na ddylwn ddibynnu’n ormodol ar un garfan o bobl yn unig.

 

Cynhaliwyd 7 noson gymdeithasol yn ystod y flwyddyn.

 

   

                   Dyddiad / Band

Niferoedd

Cyllid

15 / 4 / 05

Texas Radio Band

Radio Luxembourg

MC Saismundo

71

£284 ( 71 x £4 )

£142 i’r Cyngor

£142 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£500 i’r bandiau ( Noson Allan )

£50 i’r bandiau  ( Menter Iaith )

 

Elw = £92

28 / 5 / 05

Winebago

17

£68 ( 17 x 4 )

£34 i’r Cyngor

£34 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£350 i’r band ( Noson Allan )

 

Elw = £34

16 / 9 / 05

Frizbee

Cwn Poeth

90

£360 ( 90 x 4 )

 

£150 i’r Cyngor

£210 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£400 i’r bandiau ( Noson Allan )

£50 i’r bandiau ( Menter Iaith )

£100 elw i GYTS ( Menter Iaith )

 

Elw = £60

25 / 11 / 05

Poppies

Coda

48

£192 ( 48 x 4 )

 

£150 i’r Cyngor

£42 i’r Fenter

 

£20 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£300 i’r band ( Noson Allan )

£100 i’r band arall ( Menter Iaith )

 

Colled = £58

16 / 12 / 05

Caryl Parry Jones

100

£800 ( 100 x 8 )

 

£800 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£750 i’r band ( Menter Iaith )

 

Elw = £50

10 / 2 / 06

Genod Droog

30

£120 ( 30 x 4 )

 

£120 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£120 i’r band ( Menter Iaith )

 

Elw = 0

24 / 2 / 06

No Star

Merched Mecca

39

£156 ( 39 x 4 )

 

£150 i’r Cyngor

£6 i’r Fenter

 

£25 i staff y bar ( Tŷ Tawe )

£300 i’r band ( Noson Allan )

£50 i’r band arall ( Menter Iaith )

 

Colled = £44

 

 

Clybiau Gwyliau

 

Cynhaliodd y Fenter 4 clwb gwyliau yn ystod y flwyddyn, â nawdd gan Adran Ddatblygu Chwarae'r Cyngor Sir, ac o gyllid y Fenter ei hun. Mae’r clybiau hyn yn gyfle gwych i blant siarad Cymraeg yn ystod eu horiau hamdden.  Yn ogystal â hyn, mae’n gyfle gwych i’r Fenter gynnig gwaith rhan amser i bobl ifanc y sir drwy gyfrwng gweithdai neu ofal plant.

 

Mae’r Fenter wedi parhau i fynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth Chwarae’n gyson, ac rydym bellach ar y gweithgor penderfynu grantiau ac wedi llwyddo i barhau â’r nawdd blynyddol trwy’r bartneriaeth. Mae hyn yn ein galluogi i barhau â’n darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant Abertawe yn ystod y gwyliau. (Haf, Pasg, 2 hanner Tymor).

 

Treialwyd system newydd yn ystod 04-05 o gynnal gweithgareddau hwyl i blant y sir yn y Gorllewin a’r Dwyrain er mwyn ceisio darparu ar gyfer cymaint o blant ag sydd yn bosibl. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn gymharol isel yn 05-06, rydym yn sicr bod y system o symud y ddarpariaeth o un ysgol i’r llall, yn hytrach na chanolbwyntio ar un ardal yn unig, yn gweithio. Trwy gynnal gweithgareddau mewn clwstwr o ysgolion, rydym yn denu plant o’r ardaloedd cyfagos.

 

Rydym yn monitro llwyddiant y clybiau yn gyson drwy holiaduron i rieni a’r staff a thrwy ymgynghoriadau gyda’r plant. 

 

Cyfnod

Lleoliad

Nifer y plant

staff

Pris i’r plant

Haf 2005

(4 wythnos)* 

Pontarddulais, Lon Las, Pontybrenin, Gellionnen

Cyfartaledd

W1 – 12

W2 – 15

W3 – 12

W4 - 8

4

£3

Hanner tymor 05

(4 dydd)

Lon Las, Penllergaer

Cyfartaledd – 6 y dydd

3

£3

Hanner tymor 06

(4 dydd)**

Lon Las, Brynymor

Cyfartaledd - 8

3

£3

 

 

 

Clybiau @

 

Mae datblygiad 4 clwb ieuenctid y Fenter, sy’n cael eu hariannu trwy nawdd y Cymorth y Cyngor Sir wedi bod yn wahanol iawn yn ystod 05-06.

 

Aelwyd yn y Bont yw’r aelwyd fwyaf llwyddiannus gyda 26 yn dod ar gyfartaledd pob wythnos. Cynyddodd y niferoedd hyn yn ystod y flwyddyn. Mae’r staff yn ardderchog ac wedi manteisio o’r hyfforddiant y mae’r Fenter wedi cynnig.

Ar nos Fercher mae yna ddwy aelwyd yn cwrdd, sef un ym Mhenlan, ac un yng Nghlydach.  Mae’r aelwyd ym Mhenlan ar gyfer plant rhwng 8 a 13.  Mae’r rhan fwyaf sy’n mynychu’r aelwyd yn oedran cynradd. Aeth yr aelwyd trwy gyfnod eithaf bregus o ran niferoedd, ond gydag ymgyrch farchnata yn yr ysgolion, cynyddodd y niferoedd eto i ryw 12 ar gyfartaledd yn wythnosol.  

Yng Nghlydach, mae’r Aelwyd a ddatblygodd yn wahanol iawn i’r aelwydydd eraill y llynedd oherwydd bod oedrannau’r bobl ifanc wedi mynd o nerth i nerth, o ganlyniad i weithgareddau Gwobrau Dug Caeredin a chydweithio gyda chydlynydd Cymunedau’n Gyntaf Graigfelen ar brosiect celfyddydol (gw. Amcan 1) .  Mae hyn wedi caniatáu i’r aelwyd wneud mwy o weithgareddau amrywiol. Ar gyfartaledd, 11 sy’n mynychu’r aelwyd. 

Yn Nhreforys, er nad yw’r adeilad yn gweddu’n arbennig o dda ar gyfer yr aelwyd oherwydd yr offer sydd yno ar gyfer y corau, yr ysgolion Sul a’r Meithrin sy’n cwrdd yno hefyd, mae’n ganolog i’r bobl ifanc ac yn gyfleus o ran mynychu lleoliadau awyr agored e.e. y parc cyfagos neu feicio ar hyd afon Tawe yn ystod yr haf.  Am ryw reswm, dim ond bechgyn sydd yn mynychu’r clwb hwn ac mae ei natur, o ganlyniad, rhywfaint yn wahanol i’r clybiau eraill. Mewn ymateb i hyn, aethpwyd ati i ddatblygu sgiliau dringo’r bobl ifanc trwy dripiau cyson i ganolfan ddringo Clydach. Ar gyfartaledd mae 9 yn mynychu clwb Treforys. 

 

Mae’r bobl ifanc o’r holl aelwydydd (tua 60 i gyd) wedi manteisio ar ddewis eang o dripiau a theithiau gyda’r Fenter yn ystod tymhorau ysgol y flwyddyn ddiwethaf. Dyma deithiau lleol tebyg i’r Sinema, Mega Bowl, Lazer Zone, Play Zone, sgïo ym Mhembre, a thripiau pellach i saethu paent yn Nhrimsaran, i Gaerdydd i siopa Nadolig, sglefrio iâ , a mynd i gêmau rygbi, a hefyd mor bell â Llundain i weld y Sgarlets yn chwarae. Mae nifer fawr o’r teithiau hyn wedi bod mewn partneriaeth â mentrau cyfagos megis Menter Castell-nedd Port Talbot a Dyffryn Aman. Mae’r tripiau yma wedi galluogi pobl ifanc o ysgolion gwahanol (Ystalyfera, Bryn Tawe a Gŵyr) i gymysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd, mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, difyr.

 

Mae’r Fenter wedi derbyn arian i barhau â’r aelwydydd ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae’r hyfforddiant ieuenctid yn parhau i redeg yn llwyddiannus ar hyn o bryd i ddatblygu’r staff i redeg yr aelwydydd.  Gobeithiwn gynnal mwy o dripiau dros y flwyddyn nesaf, yn cynnwys tripiau dros nos.

 

 

 

 

Gwersi Syrffio

 

Yn dilyn llwyddiant y gwersi syrfio y llynnedd, gwnaethpwyd ail gytundeb gydag Uned Chwaraeon y Cyngor a Gower Surf Development i drefnu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg fel rhan o weithgarwch canolog y Cyngor Sir.  Cafodd 15 o bobl ifanc y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau fel rhan o gynllun “Skools Out” y Cyngor. Cynorthwywyd tîm “Skools Out” gyda’u gwaith hyrwyddo yn ysgol gynradd Bryn-y-môr mewn cydweithrediad â’r orsaf radio ‘The Wave’ a threuliwyd 4 diwrnod llawn yn syrffio un ai yng Nghaswel neu yn Llangennith gyda’r bobl ifanc yn talu £10 a’r Cyngor yn talu gweddill y costau. 

 

Mae’r syrffio wedi denu criw newydd o bobl ifanc i weithgareddau’r Fenter, ac yn dangos bod modd ymgymryd â gweithgareddau anarferol a newydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r berthynas rhyngom ni â’r cwmni syrffio hefyd yn ffrwythlon o sawl safbwynt, gyda nhw’n cymryd camau i Gymreigio’r cwmni o werthfawrogi’r budd ariannol mae’r Gymraeg yn ei greu. Â’r Eisteddfod yn dod i Abertawe yn 2006 mae’r cwmni’n awyddus i gydweithio gyda’r Fenter ar arddangosfa syrffio ar faes yr Eisteddfod.                          

                                      

     

Dysgwyr: Noson Dim Treiglo

 

Parhawyd gyda’r nosweithiau cymdeithasol yma i ddysgwyr yn dilyn llwyddiannau’r nosweithiau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r nosweithiau yn parhau i fod yn rhannol strwythuredig, gyda gweithgaredd a fyddai’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg beth bynnag fo’u gallu ieithyddol. Mae’r pwyslais, fodd bynnag, yn dal i fod ar fwynhad anffurfiol, gan roi cyfle i ddysgwyr da sgwrsio yn Gymraeg a dysgwyr newydd i gwrdd â dysgwyr eraill.

 

Er bod y noson ym mis Tachwedd yn llwyddiannus, gyda 45 o ddysgwyr newydd yn mynychu’r gweithgaredd, ni ddangoswyd yr un brwdfrydedd wrth i ni fynd ati i drefnu digwyddiad ym mis Mawrth. Mae’r cyfnod ar ôl y Nadolig o hyd yn anodd gyda nifer y dysgwyr fel rheol yn lleihau. Hefyd, teimlwyd yn gyffredinol trwy ymgynghori â dysgwyr a’r gweithgor dysgwyr bod sylw ac ymdrechion pawb yn cael eu ffocysu ar yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n mynd i fod yn dod i Abertawe yn ystod mis Awst 2006. 

 

Aethwyd ati i drefnu cinio Dydd Gŵyl Dewi anffurfiol ar y 1af o Fawrth i godi arian i’r Eisteddfod a mynychodd 25 o ddysgwyr y caffi lle cafwyd coffi a chacen, cwis a cherddoriaeth. 

 

 

 

Ardaloedd Amcan 1/ Cymunedau’n Gyntaf

 

Townhill

- Parhawyd â’r gwaith o roi cymorth i Gylch Ti a Fi Townhill, gan farchnata ar eu rhan a cheisio gwella eu cysylltiadau â mentrau cymunedol eraill yn yr ardal.  Gwnaed cais ar ran y grŵp gwirfoddol i’r Lloyds TSB Foundation i gael arian i dalu rhent y Ganolfan, costau cofrestri’r cylch a 2 drip.  Llwyddwyd i gael £1,200 a bydd hwn yn help mawr i ddatblygu ac adeiladu ar yr hyn sydd yn bodoli’n barod. Trefnwyd parti Nadolig yn wythnos olaf y cylch yn Rhagfyr i ddathlu ac i geisio denu mwy o famau a phlant. Trefnwyd trip i’r Ŵyl Feithrin ac roedd yn hynod lwyddiannus gyda phawb yn mwynhau mas draw a’r rhieni yn cael y cyfle i weld y cyfleoedd sydd ar gael i’w plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch wedi gweld nifer o newidiadau staffio dros y flwyddyn, ond bellach mae’n sefydlog gyda dwy fyfyrwraig o’r brifysgol yn ei redeg. Ond, mae’n dal i fod yn ddibynnol ar gymorth y Fenter i sicrhau cyllid er mwyn rhedeg y cylch. Mae’r gwaith cefnogol a roddodd y Fenter iddo wedi cynyddu ymwybyddiaeth y gymuned o’r Gymraeg ac wedi diwallu anghenion gofal grŵp o rieni sydd yn lleiafrif ieithyddol yn Townhill.

 

Hafod

-  Parhawyd gyda chlwb cinio Cymraeg yn yr ysgol leol i wella sgiliau ieithyddol y bobl ifanc a hefyd gwella’u hymwybyddiaeth o’r iaith, ond oherwydd niferoedd isel fe fu’n rhaid gorffen y sesiynau. Fe roddwyd cefnogaeth i’r athrawes Gymraeg ac mae hithau bellach yn rhedeg clwb bychan yn yr ysgol.*

- Cyfrannwyd at ddiwrnod Cymraeg yr ysgol gyda sesiynau ymwybyddiaeth iaith a gêmau iaith (gw. Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith)

- Trefnwyd diwrnod Cymraeg i ddisgyblion blwyddyn 8 i godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod ac i gyd-fynd â chynllun ar y cyd gyda SBREC, pwyllgor apêl Trefansel, Cymunedau’n Gyntaf a’r ysgol (gweler ‘Gweithgaredd newydd’).

 

Bonymaen

- Parhawyd gyda chlwb jiwdo Bonymaen.

- Crëwyd cysylltiad cryf gyda Chydlynydd Cymunedau’n Gyntaf yr ardal a derbyniwyd gwahoddiad i fod ar Bwyllgor Partneriaeth yr ardal. Mae hyn wedi golygu gwell cysylltiadau gyda’r bobl leol a chodi ymwybyddiaeth o’r Fenter yn y gymuned.

 

Dwyrain Dulais

- Parhawyd i gynnal clwb Cymraeg yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, eto er mwyn gwella sgiliau ieithyddol y bobl ifanc a hefyd gwella’u hymwybyddiaeth o’r iaith.*

 

Penlan

- Parhawyd i gydweithio gyda chanolfan gymunedol Penlan drwy gael presenoldeb ar y pwyllgor gwirfoddol.

- Cefnogwyd 2 daith Twf, un yn Nhirdeunaw gyda Martyn Geraint a’r llall gyda’r grŵp Triongl yn ysgol Bryn Tawe.

- Parhawyd i gynnal clwb ar ôl ysgol Gwyrosydd, a dros amser cytunwyd gyda’r athrawes y byddai hi yn parhau i gynnal y clwb gyda chymorth y Fenter o ran adnoddau a.y.b. er mwyn rhyddhau amser i ddechrau clwb newydd mewn ardal wahanol.

 

Castell

- Parhawyd â’r Nosweithiau Dim Treiglo yn ward Castell, (gw. ‘digwyddiadau cyson’).  Roedd y lleoliad hwn yn ddelfrydol gan fod llawer o wersi Cymraeg i oedolion yn digwydd yn Nhŷ Tawe.

- Trefnwyd parti diwedd tymor ar y cyd gyda Chlwb Cymraeg y Brifysgol yn Nhŷ Tawe, ac roedd y fformat yma wedi gweithio’n dda gyda nifer o bobl yno.

- Gweinyddwyd arolwg newydd o anghenion dysgwyr yn ystod cwrs Haf Hendrefoilan ac fe grëwyd bas data diwygiedig o’r dysgwyr hyn er mwyn gallu eu hysbysu o gyfleoedd i wella eu Cymraeg.

- Rhoddwyd llawer o gymorth i gaffi gwirfoddol Tŷ Tawe. Gwnaed ymgyrch farchnata newydd i ddenu mwy o bobl, yn benodol dysgwyr, i ddod i’r caffi a dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld y niferoedd yn codi yn raddol ac erbyn hyn mae’n llawn bob wythnos. Parhawyd i gydlynu’r system rota ar gyfer y gwirfoddolwyr o gangen Abertawe Merched y Wawr ac i farchnata’n helaeth trwy’r tiwtoriaid, y pecyn dysgwyr (gw. Pecyn Dysgwyr) a chyrsiau Haf. Cydweithiwyd hefyd gyda’r caffi i drefnu 2 ddigwyddiad, bwffe mawreddog yn ystod y Nadolig a bore coffi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

- Parhaodd y Gweithgor y Dysgwyr i gwrdd yn ward Castell (gw. ‘gweithgorau).

- Rhoddodd y Fenter gymorth i bwyllgor gwirfoddol T Tawe i drefnu gweithgareddau i’r gymuned yn y Ganolfan Gymraeg.  Roedd angen arnynt gymorth gweinyddol a marchnata ac roedd y Fenter yn gallu manteisio o’i chysylltiadau i wneud hyn. 

- Cynhyrchwyd a dosbarthwyd pecyn gwybodaeth i ddysgwyr Abertawe mewn cydweithrediad a’r gweithgor dysgwyr. (gw. Pecyn gwybodaeth i ddysgwyr).

- mynychwyd cyfarfodydd Cymunedau’n Gyntaf ward Castell a dechreuwyd mynychu pwyllgor cyfathrebu’r grŵp.

 

Dwyrain Gorseinon

- Parhawyd â’r clwb Cymraeg yn Ysgol Gyfun Penyrheol er mwyn gwella sgiliau ieithyddol y bobl ifanc a hefyd gwella’u hymwybyddiaeth o’r iaith.*

 

Clydach

- Datblygwyd cysylltiadau gyda Swyddog Datblygu Graigfelen a thrafodwyd nifer o brosiectau posibl. Rhoddwyd help llaw a chefnogaeth i brosiect gwarchodfa natur yn yr ardal ac fe wnaeth aelwyd@ Clydach weithio ar brosiect celf gyda’r grŵp Cymunedau’n Gyntaf.

- Cefnogwyd yr Ŵyl Feithrin yn Manor Park, Clydach ac fe drefnwyd stondin y Fenter yno.

 

Blaenymaes

- Rhoddwyd cyngor pellach i ganolfan gymunedol ARC ar weithio’n ddwyieithog.

- Drwy arian a dderbyniwyd gan Fenter a Busnes ceisiwyd dechrau prosiect newydd ym Mlaenymaes i weithio gyda rhieni o’r ardal sydd yn anfon eu plant i ysgol Gymraeg (Pontybrenin neu Tirdeunaw) ac i gynnig cyfleoedd i’r plant hynny gymysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymuned eu hunain. Yn anffodus, mae wedi bod yn anodd cael gafael ar y rhieni yma ac mae pob ymdrech hyd yn hyn wedi bod yn aflwyddiannus.

 

Clâs / Caemawr

- Mynychwyd fforymau Clâs a Chaemawr a sicrhawyd lle ar bwyllgor gweithredol y grŵp. Gwaned cyflwyniad ar yr Eisteddfod ac ar waith y Fenter i fforwm Clâs a datblygodd nifer o brosiectau o ganlyniad i hynny.

- Aethpwyd â stondin i Garnifal Clâs-Caemawr ar y cyd gyda phwyllgor apêl Treforys.

- Rhoddwyd cymorth i’r tîm Cymunedau’n Gyntaf i weithio’n ddwyieithog drwy gyfieithu taflenni, posteri a dogfennau a rhoi cyngor ar faterion perthnasol eraill.

- Dechreuwyd trefnu gwersi Cymraeg i’r gymuned i gael eu cynnal yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod er mwyn annog mwy o bobl i fynychu ac i godi ymwybyddiaeth ohoni.

 

           

  *Clybiau Amser Cinio

 

Mae’r clybiau amser cinio, sydd wedi rhoi’r pwyslais ar gyflwyno’r Gymraeg fel iaith fyw yn hytrach nag iaith pwnc yn unig, wedi bod yn gynllun llwyddiannus ers blynyddoedd bellach. Mae’r disgyblion ail iaith sydd o flynyddoedd 7-8 yn treulio 20 - 30mun yn ystod eu hawr ginio yn chwarae gêmau iaith gyda staff y Fenter. Yn ystod 05-06 diweddarwyd holl ddeunydd y clybiau i sicrhau ein bod yn cynnig y math o gêmau a oedd yn parhau i fod yn ddeniadol i bobl ifanc.

 

Ysgol

Pryd

Penyrheol

pob pythefnos

Pentrehafod

pob pythefnos

Cefn Hengoed

wythnosol

Olchfa

pob pythefnos

Pontarddulais

pob pythefnos

Gwyrosydd

pob pythefnos

 

Mae clybiau Penyrheol, Pontarddulais ac Olchfa wedi parhau i redeg yn arferol. Dechreuodd clwb cinio Pentrehafod yn dda iawn gyda chefnogaeth gref gan yr athrawon Cymraeg. Serch hyn, cwympodd y niferoedd yn sylweddol erbyn y Nadolig a chytunwyd gyda’r athrawon fod angen gweithio gyda’r disgyblion mewn modd gwahanol. Ceir gwybodaeth bellach am hyn o dan y pennawd ‘Gweithgaredd newydd - Prosiect Pentrehafod’.

Cwympodd niferoedd Cefn Hengoed yn Bonymaen yn sylweddol y llynedd pan ymunodd blwyddyn 7 newydd â’r clwb. Ond gydag un o’n Swyddogion Maes yn llwyddo i ennill cymhwyster hyfforddwr jiwdo, ailddechreuwyd y clwb â llwyddiant mawr. Roedd y drefn newydd o gynnig sesiwn jiwdo a clhwb Cymraeg bob yn ail wythnos yn gweddu i’r dim i’r disgyblion oedd yn ei fynychu. Dengys hyn fanteision meddwl yn greadigol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, a bod y technegau trosglwyddo iaith fwyaf annisgwyl yn gallu gweithio! Ar ôl 3 blynedd o redeg clwb Gwyrosydd, cytunwyd y byddai’n fwy buddiol i’r Fenter gynnig y gwasanaeth i ysgol newydd. Mae’r clwb bellach yn cael ei rhedeg gan athrawes Gymraeg yr ysgol.

                             

 

Prosiect Busnesau Abertawe

 

Llwyddwyd mewn cais am Swyddog Busnes rhan amser, i dargedu busnesau lleol yn Abertawe gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd yr Uplands, Sgeti, Castell a Gorseinon i gynnig cyngor a chymorth iddynt weithio’n fwy dwyieithog. Trwy ymweliadau unigol gyda pherchnogion a rheolwyr busnesau a mudiadau yn yr ardaloedd dan sylw, rhoddwyd gwybodaeth ymarferol iddynt ar sut i fynd ati i wella ar ddarpariaeth ddwyieithog eu sefydliadau. Manteisiwyd hefyd ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth pobl o’r Eisteddfod a’r manteision economaidd posibl i’r busnesau hynny sy’n cynnig gwasanaeth ddwyieithog. Cydweithiwyd yn agos â Swyddfa’r Eisteddfod ac â Catrin Stevens, a oedd ar gontract byr gyda Bwrdd yr Iaith i hyrwyddo’r Eisteddfod i rannu gwybodaeth am y gwaith marchnata a hyrwyddo helaeth a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn. 

 

Twristiaeth Abertawe   

Gwnaed cysylltiadau cryf â fforwm Twristiaeth Abertawe, sydd â 150 - 200 o aelodau  o blith busnesau Abertawe yn perthyn idd. Roedd bod yn aelod o’r fforwm yn gyfle ardderchog i dargedu llawer o fusnesau ar yr un pryd ac yn gyfle i ni ehangu ein gwybodaeth ni o’r sector preifat yn Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniadau ar waith y Fenter a’r Eisteddfod, a chyfrannwyd at gylchlythyr y Fforwm yn ystod y flwyddyn.

 

Pecyn Busnes

Cynhyrchwyd pecyn busnes trwy nawdd cronfa Ewrop i ddenu sylw busnesau at yr Eisteddfod mewn modd apelgar a phroffesiynol. Llwyddwyd i gael Persimmon Homes i gyfrannu at gost creu’r pecyn (£500) ac o ganlyniad, dosbarthwyd 1500 o’r pecynnau i dai Persimmon i hyrwyddo’r Gymraeg ac Eisteddfod Abertawe 2006.  Cafodd 5000 o becynnau eu cynhyrchu a dosbarthwyd hwy mewn sesiynau hyfforddiant, cyflwyniadau ar yr Eisteddfod, sioeau, ffeiriau ac wrth gwrs trwy law'r Swyddog Busnes ar ei hymweliadau yn lleol.

 

 

 

Cyfieithu

 

Defnyddwyr Cyfieithu Ebrill 2005 - Mawrth 2006

 

GRŴP 1       

GRŴP 2       

GRŴP 3       

GRŴP 4       

Women in Tune

Tŷ Fforest

Ysgol Bwylaidd Abertawe

Ysgol Goedwig

Oriel Mission

Mudiad Ysgolion Meithrin (CAYP)

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mumbles Arts and Crafts

Playright

Menter CNPT (papur a CAYP)

Guto Thomas

(llogi offer)

BTCV Cymru

Menter Cwm Gwendraeth (CAYP)

Ysgol Parc y Tywyn (CAYP)

Theatr na n’Óg

Gallu (CAYP)

To You Design

Corff a Llais

Menter Brycheiniog (CAYP)

Easy Teaching Ltd

WELCOME

Groundwork

Cymunedau yn Gyntaf

ChildLine

Macmillan

Age Concern

Y Deml Heddwch

CGGA/SCVS

Cyngor ar Bopeth

PAVO

CBAC

Prosiect Cyffuriau Abertawe

Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig

Cymdeithas Hansard

Age Concern CNPT

GGAT

Gofal a Thrwsio

Amgylchedd Cymru

SNAP Cymru

Swansea Mind

Aids Trust Cymru

 

Euroconnect

Catrin Alun

(llogi offer)

S4C (CAYP)

Comcen

Dewis (CAYP)

(papur a CAYP)

Graphic Realm

Cynog Dafis

(llogi offer)

Winning Moves

Prifysgol

Abertawe

(papur a CAYP)

Cooportunity

WCKA Karate

Exhibition

Management Ltd

Pilkington Glazing

Gwasanaeth Amddiffynnwr Cyhoeddus

Yr Elyrch

 

Esboniad o’r grwpiau

Grŵp 1 - cyrff gwirfoddol a chymunedol â llai na 2 aelod o staff:

Grŵp 2 - cyrff dielw/busnesau lleol â rhwng 2 a 10 aelod o staff:

Grŵp 3 - cyrff dielw mwy na 10 aelod o staff llawn amser a chyflogedig

 

Grŵp 4 - cyrff masnachol 

 

Nodir lle mae’r grwpiau wedi llogi offer gan (llogi offer) neu dderbyn gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (CAYP), ond os na nodir hyn, cyfieithu papur a phrawf ddarllen a ddarparwyd.

         

Gwelir ein bod yn gwasanaethu:

4 corff gwirfoddol a chymunedol â llai na 2 aelod o staff,

19 corff dielw/busnesau lleol â rhwng 2 a 10 aelod o staff,

29 corff dielw â mwy na 10 aelod o staff llawn amser a chyflogedig,

a 15 corff masnachol.

Dyma 57 corff i gyd, a llwyddwyd i ddenu 23 corff newydd yn ystod y flwyddyn.

 

Incwm a Chynnydd

Cynhyrchwyd incwm o £8038.25 yn ystod 2005/6.

 

Cynnydd mewn cyfieithu papur

Yn y tri mis cyntaf pan ddechreuwyd y swydd (sef 05/03/03 hyd at 05/06/03) cyfieithwyd 16,396 o eiriau, ond roedd yr incwm a gafwyd yn £40 (gan na fyddai pobl wedi dechrau talu eu biliau eto).

Yn y tri mis cyfatebol yn y flwyddyn ganlynol (sef 05/03/04 hyd at 05/06/04) cyfieithwyd 22,539 gair, a £1546.35 oedd yr incwm.

Yn y tri mis o 03/12/04 – 03/03/05, cyfieithwyd 37,872 gair, a’r incwm oedd £2066.08

Yn y tri mis o 01/01/06 i 01/04/06, cyfieithwyd 38,951 gair, a chafwyd £2,253.11 o incwm.

 

Cynnydd mewn cyfieithu ar y pryd

Yn y tri mis cyntaf pan ddechreuwyd y swydd (sef 05/03/03 hyd at 05/06/03) ni chyfieithwyd ar y pryd mewn un cyfarfod, ond llogwyd offer ar 5 achlysur.

Yn y tri mis cyfatebol yn y flwyddyn ganlynol (sef 05/03/04 hyd at 05/06/04) cyfieithwyd ar y pryd ar 6 achlysur, a llogwyd offer ar 3 achlysur.

Yn y tri mis o  03/12/04 i 03/03/05, cyfieithwyd ar y pryd ar 6 achlysur, a llogwyd offer unwaith.

Yn y tri mis o 01/01/06 i 01/04/06, cyfieithwyd ar y pryd ar 7 achlysur, a llogwyd yr offer 4 gwaith.

 

Marchnata

Cynhaliwyd 10 cyfarfod â busnesau a mudiadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys TGI Fridays, Morgans, SNAP Cymru, Oriel Mission, a Sports Leaders Wales. Yn ychwanegol at hyn cysylltwyd â nifer o gwmnïau dros y ffôn ac ar

e-bost, sy’n golygu ein bod wedi cysylltu â chyfanswm o 43 o fusnesau a mudiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Cyflwyniadau

Gwneuthum gyflwyniad ar fanteision gweithio’n ddwyieithog a’r gwasanaeth cyfieithu i nifer o fusnesau bach yng Nghanolfan Treftadaeth De Gŵyr, ar y cyd â Trysor, cymdeithas archeolegol.

 

 

 

Monopoly

Un o’r ymgyrchoedd a gynhaliwyd gennyf yn ystod y flwyddyn oedd yr ymgyrch i gael Monopoly dwyieithog i Abertawe. Nid oedd y  cwmni a oedd yn cynhyrchu’r gêm yn awyddus i gynhyrchu gêm ddwyieithog o gwbl ar y cychwyn, ond llwyddasom i ddwyn perswâd arnynt. Gwnaethpwyd hyn drwy gysylltu â Bwrdd yr Iaith er mwyn iddynt lythyru’r cwmni a chefnogi’n galwad, a threfnasom ddeiseb a gyflwynwyd i’r Evening Post. Cyhoeddwyd pôl piniwn ganddynt yn dangos bod dros 200 wedi pleidleisio dros gael gêm ddwyieithog a 3 wedi pleidleisio yn erbyn. Yn dilyn hyn, cyfieithwyd bwrdd a chardiau Monopoly, ond ni chefais yr holl elfennau i’w cyfieithu.

 

Pan ddaeth copi yn ôl i’w brawf ddarllen, nid oeddwn yn hapus â maint y Gymraeg, a’r ffaith nad oedd unrhyw Gymraeg ar glawr y bocs, ac yn y blaen. Ar ôl derbyn cyngor gan Heini, cysylltais â’r cwmni gan nodi’r pwyntiau a oedd yn achosi pryder, a dywedasant eu bod yn eu derbyn. Ni lwyddwyd i’w darbwyllo i newid yr elfennau hyn, fodd bynnag. Mynychais lansiad Monopoly, ac roedd yn dda gweld bod y Gymraeg yn iawn ar y cardiau a’r bwrdd, ond roeddwn yn siomedig gan nad oedd y Gymraeg o’r un maint â’r Saesneg, a bod gwallau ar yr acenion yn y darn yn sôn am Abertawe.

 

Cefais gyfle da i hyrwyddo gwaith y Fenter, fodd bynnag, oherwydd fe’m gwahoddwyd i gael cyfweliad ar Wedi 3 er mwyn trafod y gwaith a wnaethpwyd gennym. Canmolodd Alun Wyn Bevan a Catrin Evans waith y Fenter, gan ddweud ei bod hi’n anodd iawn dylanwadu ar gwmni mawr o Lundain.

 

Stadiwm Liberty

Cynhaliwyd ymgyrch er mwyn ceisio darbwyllo Stadiwm Liberty newydd Abertawe i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg o gwmpas y stadiwm. Cysylltwyd â’r prif weithredwr ac aelodau o’r Cyngor nifer o weithiau i’r perwyl hwn. Cynhaliwyd cyfarfod gydag Aled Davies, o uned Sector Breifat Bwrdd yr Iaith, a Gwion Evans y Cyngor, er mwyn gweld sut y byddem yn gweithredu. Darbwyllwyd cefnogwyr y Gweilch a’r Elyrch i anfon llythyron at reolwyr y stadiwm yn gofyn am wasanaethau dwyieithog.

 

Cynhaliais i ac Emma gyfarfod gyda Helen Davies, Rheolwraig Lletygarwch y Stadiwm. Trafodwyd cyfieithu arwyddion, pecynnau, ac yn y blaen gyda hi. Mae hi hefyd wedi derbyn pecyn busnes, 8 bathodyn Iaith Gwaith a phoster. Crybwyllwyd y syniad o wneud archwiliad o’r stadiwm i weld beth y gellid ei newid, ond mae wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am hyn i aelod arall o staff, ac er i fi e-bostio nifer o weithiau nid ydym wedi gwneud cynnydd yn hyn o beth.

 

Gwnaethpwyd cynnydd, fodd bynnag, gyda’r Elyrch. Cysylltwyd ag Eirian Wyn, sydd yn trefnu erthyglau ar gyfer rhaglenni’r gemau. Rydym wedi trefnu ein bod yn cyfieithu erthyglau ar gyfer y gemau cartref er mwyn cael logo’r Fenter ar y rhaglen.

 

Taflen yn hyrwyddo Cyfieithu ar y Pryd

Cynlluniwyd taflen yn hyrwyddo cyfieithu ar y pryd, ac mae hon wedi ei hargraffu a’i hanfon at nifer o fudiadau erbyn hyn.

 

Cysylltiadau â Bwrdd yr Iaith

Yn dilyn cynhadledd Bwrdd yr Iaith yn trafod y Sector Breifat, rwyf wedi trefnu ein bod yn cadw cysylltiad agosach â Rhidian Jones, sy’n gweithio yn y sector breifat yn y gorllewin, drwy anfon adrannau perthnasol o’m hadroddiadau deufisol ato, a bydd ef yn rhoi gwybod i ni pan fydd gwaith perthnasol yn ein hardal ni.

 

Arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Sefais arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ym mis Ebrill, a chlywais ar ddiwedd mis Mai fy mod wedi bod yn llwyddiannus yn y ddau bapur, sef cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.

 

 

 

 

 

 

 

Fforwm sirol Bwrdd yr Iaith

 

Mae Fforwm sirol Abertawe yn ei ail flwyddyn bellach â’r bartneriaeth rhwng y mudiadau wedi tynhau i’r graddau nes bod teimlad o weithio fel tîm effeithiol rhwng y mudiadau yn bodoli. Sefydlwyd y Fforwm i annog a dathlu cydweithio'r mudiadau Cymraeg yn Abertawe. Mae’r fforwm yn cynrychioli  staff Meithrin, Twf, yr Urdd, Consortiwm, y Fenter, Merched y Wawr, Rhag, CYD, y Cyngor Sir, a Phrifysgol Cymru Abertawe ac rydym fel tîm wedi manteisio ar amryw o gyfleoedd i gydweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn benodol yn ystod Gŵyl Cyhoeddi’r Eisteddfod ac Ymgyrch Marchnata Addysg/Cymreigiwch yn Abertawe. Mae’r cydweithio wedi bod yn brofiad buddiol i bob un o’r mudiadau, gyda’n dealltwriaeth ni o’n gilydd, ein mudiadau a’n ffyrdd o weithio wedi cynyddu’n sylweddol. Prif Swyddog y Fenter sy’n cadeirio’r cyfarfodydd ar hyn o bryd.

 

Hyfforddiant Pobl Ifanc

 

Yn ystod Medi a Hydref cyfieithwyd cwrs hyfforddiant ieuenctid i bobl ifanc trwy uned gyfieithu’r sir a mynychwyd y cwrs gan 9 person ifanc sydd bellach yn gymwys i weithio yn yr aelwydydd ac i fod yn weithwyr dwyieithog i’r Cyngor. Roedd y cwrs yma yn ddilyniant i’r cwrs RHyCA mewn Gwaith Ieuenctid a oedd yn rhedeg yn 2005, lle cafodd 8 gweithiwr newydd hyfforddiant, ac sydd bellach yn arweinwyr yn yr aelwydydd. Cafodd y cwrs ei redeg gan Swyddog Maes y Fenter ar y cyd a Swyddog o Uned Ieuenctid y Cyngor.  Trwy redeg y cwrs yma, daeth y Cyngor i sylweddoli fod galw am gyrsiau drwy’r Gymraeg, bod pobl ifanc yn siarad Cymraeg a bod angen i’r Cyngor ddarparu ar gyfer y bobl ifanc yna. Trwy wneud y cwrs mae’r bobl ifanc wedi dysgu sgiliau fel asesu risg, iechyd a diogelwch a threfnu gweithgareddau a gobeithio byddant yn defnyddio'r sgiliau yna yn y dyfodol. Mae’r cwrs yma wedi bod yn fuddiol i’r Fenter gan iddo roi’r cyfle i ni redeg cwrs gwaith ieuenctid i bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg â chymhwyster mae’r Cyngor yn ei gydnabod ac yn edrych amano wrth recriwtio gweithwyr. Os gall y Fenter hyfforddi mwy o bobl ifanc yn y maes ieuenctid, bydd mwy o weithwyr ieuenctid yn Abertawe yn gallu siarad Cymraeg. 

 

Sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith

 

Yn ystod y flwyddyn, mae’r Fenter wedi parhau i ymgymryd ag ychydig o waith cenhadu ac addysgu drwy gyfrwng sesiynau ymwybyddiaeth iaith.  Erbyn hyn mae profiad eang gennym o ffyrdd o gyflwyno’r sesiynau i

gyd-fynd a’r grŵp targed, mae nifer o sefydliadau wedi gofyn i ni wneud gwaith o’r fath:

  • Prifysgol Cymru Abertawe x 2
  • Ysgol Gyfun y Strade
  • Athrofa Abertawe
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe
  • Ysgol Uwchradd Saesneg Penyrheol
  • Ysgol Uwchradd Saesneg Pontarddulais
  • Ysgol Uwchradd Saesneg Esgob Gôr
  • Ysgol Uwchradd Saesneg Pentrehafod
  • Cyflwyniad i Gydlynwyr Cymunedau’n Gyntaf
  • Aelodau Cabinet / Cynghorwyr
  • Fforwm Busnes/ Twristiaeth Abertawe x 3

 

Roedd y sesiynau hyn yn amrywio yn ôl oed ac angen, ond roedd y rhan fwyaf yn cynnwys cyflwyniad ar hanes yr iaith, gweithgareddau, cyflwyniad am waith y Fenter a thriniaeth o agweddau cyffredin tuag at yr iaith. Mae safon deunydd ar gyfer y sesiynau wedi gwella, ond, â’r nifer o gyflwyniadau yn cynyddu, bydd angen cynhyrchu mwy o ddeunydd proffesiynol.  Mae’r Fenter wedi elwa ar wybodaeth helaeth ein Swyddog Maes yn y maes hwn.

 

Gyda’r newid a’r cynnydd mewn staff bydd angen sicrhau hyfforddiant mewnol gan y staff mwyaf profiadol yn y maes, er mwyn gallu parhau gyda’r lefel hwn o weithgarwch. Mae’r Fenter yn gweld budd mawr mewn sesiynau o’r fath ac mae cysylltiadau pwysig a chydweithio pellach wedi datblygu yn sgil y cyflwyniadau ymwybyddiaeth iaith.

 

 

Dysgwyr: Pecyn Gwybodaeth i Ddysgwyr

 

Cynyrchwyd  ail gyflenwad o’n pecynnau gwybodaeth i ddysgwyr, a oedd mor boblogaith y llynnedd. Roedd yn gyfle, nid yn unig i drosglwyddo gwybodaeth gwbl berthnasol i ddysgwyr gwbl newydd i’r Gymraeg, ynghyd a dysgywr fwy profiadol am y cyfleoed i defnyddio eu sgiliau ieithyddol newydd yn Abertawe, ond roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod. Mae hyn, fel yr ydych yn siwr o fod wedi sylwi o ddarllen yr adroddiad, wedi bod yn ffocws i ni a nifer o fudiadau eraill dros y flwyddyn diwethaf. Roedd y pecyn y cynnwys gwbodaeth am sut i gael mynediad i safleoedd gwe, rhaglenni radio a theledu sy’n addas ar gyfer dysgwyr,  ond yn bwysicaf oll, gwybodaeth ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Trwy’r gweithgor dysgywr, sydd wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i ddatblygiad gwaith dysgwyr y Fenter, aethpwyd ati i gasglu adnoddau, a oedd yn cynnwys manylion mudiadau Cymraeg ar gyfer dysgwyr lleol e.e. CYD, Consortiwm, y Fenter, rhaglen Tŷ Tawe, taflen caffi clonc a.y.b., yn ogystal â phamffledi dysgu Cymraeg, beiros a digwyddiaduron Bwrdd yr Iaith. Daeth y gweithgor a swyddogion y Fenter at ei gilydd i lenwi’r pecynnau, a dosbarthwyd pecyn i dros 600 o ddysgwyr yn Abertawe trwy’r tiwtoriaid a’r gweithgor.

 

 

 

 

 

 

 

 

   

 

 Gweithgareddau newydd / achlysurol

 

 

 

Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe

 

Bu’r  Fforwm sirol yn weithgar iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn paratoi at yr Eisteddfod. Gŵyl Cyhoeddi’r Eisteddfod oedd y tro cyntaf i bob un ohonom fel Fforwm gydweithio yn ogystal â bod yn gyfle i ni gydweithio gyda sefydliadau mwy fel S4C, Radio Cymru ac uned ddigwyddiadau’r Cyngor Sir.

Yn wreiddiol, cytunwyd i drefnu bore o adloniant ar lwyfan yn sgwâr y Castell, a chael stondinau pob un o’r mudiadau yn hyrwyddo’u gwasanaethau unigol yn ystod y dydd. Newidiwyd y trefniadau ar ôl trafodaethau gydag S4C/Radio Cymru i gyfuno digwyddiadau’r Fforwm a’u taith Haf nhw i gael diwrnod llawn o adloniant.

Cydweithiwyd â gwirfoddolwyr pwyllgor apêl ward Castell a rhai o weithwyr ifanc y Fenter i ddosbarthu taflenni am Eisteddfod Abertawe a hysbysu’r cyhoedd am yr orymdaith ganol dydd. Rhoddwyd cyfweliad hefyd ar Radio Cymru gan gynrychiolwyr y Fforwm ar waith y Fforwm a llwyddiant y dydd.

 

           

Partneriaeth y Fenter a’r CGGA trwy gynllun hyfforddiant hirdymor

 

Daeth gweithiwr Datblygu Cymuned dan hyfforddiant (Cymraeg ei iaith) trwy Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) i ymuno a thîm y Fenter ar gyfnod profiad gwaith hirdymor ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Roedd y Fenter yn un o 7 mudiad arall yn Abertawe a oedd yn rhan o’r cynllun hyfforddiant mewn partneriaeth a’r CGGA, er mai dyma’r tro cyntaf i weithiwr dan hyfforddiant gael y cyfle i dderbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i gael y cyfle i weithio gyda’r gymuned o ddiddordeb Cymraeg. Treuliodd y swyddog amser gyda phob un o’r swyddogion yn eu tro er mwyn dysgu am yr hyn y mae’r Fenter yn ei gyflawni a pham. Roedd yn rhan o weithgareddau’r Hwyl Haf yn ogystal â chynnal gweithdy drymio, syrffio a’r gweithgareddau awyr agored. Er y gwaith cyffredinol, neilltuwyd prosiect penodol ar ei gyfer, hynny oedd i greu proffiliau o wasanaethau Cymraeg yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Abertawe. Cafodd ei ddatblygiad proffesiynnol ei fonitro’n agos gan y Prif Swyddog trwy gyfarfodydd gwaith wythnosol a Phennaeth y cynllun gyda’r CGGA bob pythefnos. Mae’r cynllun wedi bod yn brofiad heriol ar adegau i’r swyddog ac i’r Fenter, ond heb os, mae’r cynllun wedi cael effaith positif ar sut mae’r person ifanc yn gweld y Gymraeg. Mae’r swyddog bellach yn cymdeithasu, yn dysgu sgiliau ac yn gweithio trwy’r Gymraeg. O ran y Fenter, mae ein profiad o weithio’n agos gyda CGGA wedi bod yn un cwbl gadarnhaol. Rydym fel mudiad wedi cael ein canmol am ein hymroddiad i’r cynllun ac i’r swyddog sydd erbyn hyn bron yn barod i gwblhau ei gyfnod profiad gwaith.  

 

 

 

Clybiau ôl ysgol cynradd Cymraeg

 

Dechreuwyd dau glwb ar ôl ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – un cynradd ac un uwchradd. Teimlwyd bod angen i Swyddogion Maes y Fenter greu cysylltiadau gwell â’r disgyblion ifanc fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â’r swyddogion a dod i glywed am y cyfleoedd iddynt ddefyddio’r Gymraeg yn eu amser hamdden e.e. trwy gynlluniau chwarae’r Fenter neu’r aelwydydd. 

Tirdeunaw:- Cynorthwywyd y clwb bob yn ail wythnos gan y Fenter trwy gêmau iaith, parasiwt a chwaraeon amrywiol.

Clwb Jiwdo Bryntawe.- bu clwb Jiwdo yn cyfarfod yn wythnosol ym Mryntawe â’r niferoedd yn amrywio o 10 i 20, gyda chymysgedd o ferched a bechgyn o flynyddoedd 7 ac 8.

 

Mae’r clybiau wedi llwyddo i greu cyswllt gyda’r plant, ffaith a effeithiodd yn uniongyrchol ar drip awyr agored a gynhaliwyd yn Rhosili, a fynychwyd gan nifer o’r dosbarth Jiwdo, criw newydd i weithgareddau’r Fenter hyd yn hyn.

 

Bwriadwn ymestyn y ddarpariaeth i ysgolion eraill y sir yn eu tro, yn ôl angen ac adnoddau dynol.

 

 

Gweithgareddau Awyr Agored

 

Yn dilyn llwyddiant y gweithdai syrffio, penderfynwyd cynnig gweithgareddau awyr agored fel rhan o ddarpariaeth haf y Fenter. Mynychodd 13 o bobl ifanc rhwng 13 i 15 blwydd oed weithgareddau dringo creigiau, abseilio a ‘coasteering’ dan gyfarwyddyd canolfan awyr agored Rhosili a gwersyll Hillend yn Llangennith dros 2 ddiwrnod. Dyma’r tro cyntaf i’r Fenter roi cynnig ar weithgaredd dros nos ac roedd yn llwyddiant ysgubol (er ei fod yn waith blinedig!). Benthycwyd yr offer i gyd oddi wrth Wobr Dug Caeredin yng Nghanoldre. Roedd y prosiect yn fuddiol wrth i staff y Fenter gael y cyfle i dreulio amser gyda chriw o ieuenctid a felly’n rhoi’r cyfle iddynt ddod i adnabod y plant a gwneud rhywfaint o waith ieuenctid.

 

 

 

         

Cydlynodd y Fenter 8 o weithwyr/gwirfoddolwyr Mentrau Iaith Morgannwg a Gwent i fynychu hyfforddiant MLA (Mountain Leader Award) yn sgil llwyddiant cais trwy Gyngor Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r cymhwyster yn galluogi’r swyddogion i arwain grwpiau ar fynyddoedd (yn ystod yr haf yn unig). Pwysigrwydd a manteision rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ennill cymwysterau dringo yw wrth gwrs bod mwy o gyfleoedd I Gymry Cymraeg ymgymryd â gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 

 

Gwobrau Dug Caeredin

 

Mae gwaith y Fenter â gwobrau Dug Caeredin wedi datblygu i gynnwys nid yn unig disgyblion Gŵyr ond aelwyd Clydach a disgyblion Bryn Tawe. Rhoddwyd cymorth ymarferol trwy’r Fenter i athrawon a disgyblion Gŵyr a’r aelwyd ar eu halltaith i Gastell Carreg Cennyn a Phort Eynon. Bu cerdded, gwersylla, gêmau tîm a mwy o gerdded dros y penwythnos ym Mhort Eynon. Gan fod Swyddog Maes y Fenter hefyd wedi bod yn rhan o’r gweithgareddau i ennill profiad yn y maes, roedd modd i’r Fenter wneud y dasg yn annibynnol o’r ysgol wedi hynny.

Gwnaethpwyd y camau cychwynnol i ddechrau Gwobrau Dug Caeredin ym Mryn Tawe gyda chryn lwyddiant. Bwriadwn adeiladu ar frwdfrydedd y bobl ifanc yma yn ystod y misoedd i ddod. Mae’r gwobrau yn cynnig dilyniant naturiol i’r bobl ifanc hynny sydd wedi mynychu gweithgareddau’r Fenter yn y gorffennol, ac yn cynnig cyfle i ni fel Menter ddarparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg iddynt bob cam o’r ffordd.

Mae’n galonogol gweld pobl ifanc ym manteisio ar y cyfleoedd y gall y Fenter eu cynnig iddynt, yn enwedig rhai sydd wedi tyfu a datblygu gyda’r Fenter mewn ffordd. Yr hyn oedd yn gadarnhaol oedd bod y bobl ifanc y mae'r Fenter wedi ymwneud â nhw o’r blaen yn siarad Cymraeg gyda’r Swyddog Maes, lle bo’r lleill yn gyndyn iawn i wneud.  Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y cyswllt personol cyson rhwng y swyddogion maes a phobl ifanc.

 

 

 

Cymreigiwch yn Abertawe / Ymgyrch Farchnata Addysg Bwrdd yr Iaith

 

Roeddem yn rhan oŵyl ‘Cymreigiwch Abertawe’ y Cyngor eleni am y 3ydd tro. Roedd trefniant yr ŵyl eto yn wahanol i’r flwyddyn flaenorol oherwydd newidiadau staffio yn adran farchnata’r Cyngor. Nid oedd y Cyngor yn bwriadu trefnu adloniant yn y Cwadrant, dim ond hysbysebu gweithgareddau oedd yn digwydd yn annibynnol. Teimlwyd yn gryf yn y Fforwm Sirol fod angen i ddigwyddiad yn hyrwyddo’r Eisteddfod o gwmpas dathliadau Dydd Gŵyl Dewi gael ei gynnal, a hynny mewn man cyhoeddus.

 

Cysylltwyd â’r Fenter hefyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i fod yn rhan o gynllun peilot y Bwrdd i Farchnata Addysg Gymraeg, un o 6 ardal yn genedlaethol a dargedwyd  mewn ymgyrch penodol ‘Cymraeg- Kids soak it up’ yn ystod mis Chwefror 06.

Mewn cydweithrediad â’r Fforwm Sirol a’r Gweithgor Datblygu (sydd bellach yn bwyllgor rheoli ar y Fenter) cytunwyd i gyfuno’r ddau ddigwyddiad, ac mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir, aethpwyd ati i drefnu 2 ddiwrnod o adloniant yng nghanol y Cwadrant. Trwy gyfarfodydd â’r gweithgor datblygu a’r Fforwm Sirol cytunwyd ar yr adloniant canlynol:

  • Trefnwyd cyflwynydd adnabyddus o’r orsaf radio ‘Sain Abertawe’
  • Rhoddwyd gwahoddiad i 4 ysgol gynradd Cymraeg berfformio’n gyhoeddus
  • Trefnwyd Clown a Chonsurwr i ddiddanu plant o’r ysgolion cynradd
  • Trefnwyd hefyd ganu gwerin, telynwyr o Ysgol Gyfun Gŵyr, chwedleuwraig i blant
  • Cymeriadau S4C
  • Cynrychiolaeth o stondinau o Twf, Meithrin, yr Urdd, MYW, CYD, y Brifysgol, y Fenter a’r Eisteddfod

 

Daeth gwirfoddolwyr o’r Fforwm Sirol ac o’r gweithgor datblygu i gefnogi yn ystod y 2 ddiwrnod trwy ddosbarthu deunydd marchnata'r ymgyrch addysg sef sbwnjys, pensiliau, brwsys dannedd i blant, bibs i fabanod a.y.b., ac wrth gwrs i ddosbarthu gwybodaeth am yr Eisteddfod. Roedd yn waith caled ond yn ddigwyddiad hynod fuddiol. Un o lwyddiannau mwyaf y digwyddiad o ran trefniant oedd ein dewis o gyflwynydd. Roedd Kevin Johns, sy’n dysgu Cymraeg ac sydd wedi anfon ei blant trwy’r system addysg Gymraeg, yn wych yn trosglwyddo manteision addysg Gymraeg i’r gynulleidfa darged. Cafwyd ymateb positif gan rieni yn ystod y ddeuddydd oedd yn awyddus i gael gwybodaeth am ysgolion Cymraeg Abertawe, i gael gwybodaeth bellach gan y Bwrdd am addysg Gymraeg yn gyffredinol ac am waith mudiadau Cymraeg Abertawe.

 

Cafwyd cyfarfod adborth gyda’r Bwrdd lle trafodwyd effeithiolrwydd y deunydd, yr amser a gafwyd i drefnu gweithgareddau) a manteision ac anfanteision yr ymgyrch yn gyffredinol. Nodwyd gan y Bwrdd fod nifer o ymholiadau i’r llinell gymorth wedi dod o ardal Abertawe. 

 

          

  

Prosiect Treftadaeth GYTS (Gwnewch Ymdrech Tra’n Siarad)

 

Mae criw o chweched dosbarth Gŵyr wedi dechrau ymgyrch o’r enw GYTS yn yr ysgol - sef Gwnewch Ymdrech Tra’n Siarad. Dechreuodd yr ymgyrch yma yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth er mwyn Cymreigio’r ysgol ymysg y disgyblion. Mae gan nifer fawr o’r criw gysylltiad â’r Fenter, trwy weithio yn yr aelwydydd, drwy wneud profiad gwaith neu drwy fynychu Gwener y Grolsch. Mae’r Fenter, gyda chymorth Miss. Rowlands, Athrawes Gymraeg yr ysgol, wedi bod yn gweithio gyda GYTS wrth iddynt sefydlu pwyllgor a phenderfynu ar dargedau.  Mae’r Fenter wedi cynnig cymorth iddynt drefnu gig GYG eu hunain i godi arian i’r ymgyrch. Bu cryn gydweithrediad gyda’r grŵp a Swyddog Cymraeg Morgannwg y Fenter i gyd-gynllunio prosiect yn codi ymwybyddiaeth disgyblion yr ysgol o’r frwydr a’r ymdrech a aeth i sefydlu ysgol uwchradd gyntaf y sir. Mae’r cydweithio effeithiol wedi esblygu i fod yn brosiect a fydd yn cynnwys DVD o waith ymchwil y disgyblion i gasglu gwybodaeth ffeithiol o ran cyhoeddiadau, datganiadau i’r wasg, cyfweliadau ag ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg, rhieni cefnogol, yn ogystal â threfnu cyflwyniadau gan brifathro, athrawon a disgyblion cyntaf yr ysgol. Mae’r prosiect wedi denu diddordeb Cronfa Treftadaeth y Loteri, a chafwyd cyfarfod gyda’r Grŵp GYTS a swyddog y gronfa i drafod posibiliadau ariannu’r prosiect arloesol. Gwnaethpwyd cais yn enw’r Fenter ar ran y grŵp gan Swyddog Cymraeg Morgannwg ac rydym ni a GYTS yn awyddus i gael cadarnhad o’r canlyniad.

 

 

 

Brwydr y Bandiau

 

Trefnwyd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar y cyd rhwng gwasanaeth nos BBC Radio Cymru, C2, a Mentrau Iaith Cymru, â’r nod, ar lefel genedlaethol, o ddod o hyd i'r enw mawr nesaf yng Nghymru a chynnig cyfle anhygoel iddyn nhw godi proffil, recordio a pherfformio yn rhai o brif ddigwyddiadau Cymru.  Ar lefel leol, y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ac ymwneud pobl ifanc mewn cerddoriaeth gyfoes Cymraeg.

 

Cynhaliwyd rownd rhanbarthol y De Ddwyrain yn Abertawe yn mis Gorffennaf. Yn anffodus, o ganlyniad i newidiadau sylweddol o ran trefniant y gystadleuaeth yn agos iawn at y dyddiad, roedd canlyniad y gystadleuaeth yn un siomedig. Ar ddechrau’r wythnos cyn y frwydr roedd 9 band o’r

de-ddwyrain yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ond erbyn y dydd Sadwrn roedd pob un ohonynt wedi tynnu’n ôl. Llwyddwyd yn y diwedd i recordio un band ar gyfer rhaglen C2.

 

Er bod y gystadleuaeth yn ei hanfod yn un arbennig o bwysig o ran cynnig mynediad i bobl ifanc i ddiwylliant cerddoriaeth Cymraeg modern, mae angen newid tipyn arni. Roedd y gystadleuaeth yn digwydd yn ystod arholiadau, sy’n un rheswm pam cafwyd cymaint o anawsterau dod o hyd i ( a chadw!) bandiau ifanc. Bu trafodaethau niferus ar ôl y frwydr eleni am yr angen i gydweithio’n well rhwng y Mentrau ac C2 o ran amseriad, hysbysebu a hyrwyddo’r digwyddiad. Codwyd heyf y mater hollbwysig ynglŷn â meithrin a chefnogi talent ifanc ymhell o flaen llaw drwy weithdai roc, cyfansoddi, y math o waith a fydd yn codi hyder y bobl ifanc i chwarae’n gyhoeddus ac i ddatblygu sgiliau newydd. Os gwrandawn ar y negeseuon clir y mae’r bandiau ifanc yn eu rhoi, ni chawn sefyllfa fel yr oedd eleni eto yn rhanbarth y de-ddwyrain.

 

Mae’r Fenter, o ganlyniad i gyfraniad siomedig ein rhanbarth ni i’r digwyddiad, wedi bod yn cefnogi band ifanc o Gŵyr i ddatblygu eu sgiliau fel grŵp ifanc sydd am berfformio’n Gymraeg, trwy gynnig lleoliad ac offer ymarfer iddynt yn wythnosol. Trefnwyd rota rhwng swyddogion y Fenter a Catrin Rowlands, Athrawes Gymraeg Gŵyr i orchuwylio’r sesiwn wythnosol. Y gobaith yw y bydd y band yn datblygu i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau 2007 ac i gael band roc Cymraeg yn Abertawe. Mae’r sesiynau wedi bod yn anffurfiol, ond cafodd y grŵp weithdy roc personol gyda’r band Frizbee, a oedd yn brofiad anhygoel iddynt. Gobeithio y bydd mwy o weithdai tebyg yn gallu datblygu gyda’r bandiau eraill sy’n chwarae yng Ngwener y Grolsch.

 

 

Prosiect Ysgol Pentrehafod / Eisteddfod

 

Mewn cydweithrediad ag ysgol Pentrehafod, SBREC (Swansea Bay Racial Equality Council), Cymunedau’n Gyntaf ward Castell, a Robin Campbell o bwyllgor apêl Eisteddfod Trefansel, cynlluniwyd prosiect i hyrwyddo’r Eisteddfod yn ardal yr Hafod. Mae gan yr ardal ganran uchel o leiafrifoedd ethnig na fyddai o reidrwydd wedi clywed am yr Eisteddfod o’r blaen. Gwelwyd hwn, felly, yn gyfle da i integreiddio dau ddiwylliant gwahanol mewn modd sy’n gwbl dderbyniol i bawb. Gan fod yr ysgol yn ganolog yn yr ardal a chyda’i natur amlddiwylliannol, roedd yn synhwyrol i ni ganolbwyntio ar ddisgyblion yr ysgol i’n cynorthwyo gyda’r prosiect hon. Prif fwriad y prosiect oedd sicrhau mynediad pobl leol i wybodaeth am ddiwylliant Cymraeg gyda’r Eisteddfod yn dod, ond hefyd i fod yn gyfle i ni ddysgu a gwerthfawrogi diwylliant newydd a gwahanol i’n diwylliant ni. Mae gweithdai wedi dechrau yn canolbwyntio ar gerddoriaeth ac ar ddawns Cymraeg (a Bengali) ond yn cyflwyno’r ddwy mewn ffordd unigryw. Byddwn yn ystod yr wythnosau nesaf yn dod a’r prosiect i ben trwy berfformaid gan ddisgyblion yr ysgol sydd wedi bod yn ymwneud â’r gweithdai, ynghyd ag arddangosfa benodol ar hanes yr Eisteddfod. Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal yn yr ysgol ac yn agored i rieni a thrigolion yr ardal.

 

Mae grŵp roc yr ysgol wedi bod y dysgu caneuon y grŵp Cymraeg poblogaidd Frizbee yn barod ar gyfer y perfformiad nos ac mae swyddfa’r Eisteddfod hefyd yn awyddus i’r grwpiau dawnsio berfformio ar eu llwyfan perfformio yn ystod yr wythnos Eisteddfod.  

 

Cafwyd cadarnhad ein bod wedi llwyddo mewn cais loteri ‘Dyma dy gyfle’ i dalu am y gweithdai, ac arddangosfa tairieithog am yr Eisteddfod.

 

Gwersi Cymraeg i Gynghorwyr Abertawe

 

Yn dilyn cydweithio da gyda’r Cyngor Sir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gofynnwyd i’r Fenter lunio cwrs Cymraeg i 16 o gynghorwyr ac aelodau cabinet y sir oedd yn awyddus i ddysgu rhywfaint o Gymraeg cyn i’r Eisteddfod ddod i Abertawe. Gwelwyd hyn yn gyfle ardderchog i sicrhau bod eu hymwybyddiaeth gyffredinol o’r Gymraeg yn gwella yn ogystal â’u sgiliau Cymraeg. Cyflwynwyd briff o’r prosiect gan y Fenter gydag awgrym cryf  y dylid dechrau’r cwrs gyda phenwythnos dwys o ddysgu a rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, cyn parhau â’r gwersi wythnosol (dros gyfnod o 3 mis). Cynigiwyd sesiynau ‘dal fyny’ ychwanegol i’r rhai nad oedd yn gallu mynychu’r wers yn wythnosol a chyflwynwyd y syniad newydd o ‘Fentoriaid’ i’r cynllun. Gwelsom fudd o ddefnyddio staff Cymraeg presennol y Cyngor i gynorthwyo’r cynghorwyr yn unigol fel modd effeithiol o 1) cefnogi, cadw brwdfrydedd ac annog y cynghorwyr i barhau, ond yn bennaf 2) i adlewyrchu bod siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y Cyngor. Roedd y Fenter hefyd eisiau dangos bod angen defnyddio a manteisio ar sgiliau dwyieithog y staff i wella eu darpariaeth Cymraeg yn gyffredinol ac wrth gwrs, i ddangos taw sgil sy’n haeddu cydnabyddiaeth ariannol yw’r Gymraeg. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r Consortiwm Cymraeg i Oedolion, a Chris Reynolds yn benodol sydd wedi cytuno i fod yn diwtor i ni. 

 

Mae’r Cwrs ar fin dechrau, ond mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol.

 

   

 

 

 

Boreuon/ diwrnodau Cymraeg ysgolion ail iaith

 

Penyrheol Pob Hydref mae Ysgol Gyfun Penyrheol yn trefnu diwrnod Cymraeg i ddisgyblion bl.7. Eleni, aeth ein Swyddog Maes, sy’n rhedeg y clwb cinio yn yr ysgol, i redeg gweithgareddau'r Fenter. Cafwyd 4 sesiwn gwahanol o gêmau iaith.

Pontarddulais Cafodd disgyblion Ysgol Gyfun Pontarddulais gyflwyniad ar yr Eisteddfod, cwis a gêmau iaith yn ystod eu diwrnod ail-iaith. Trefnwyd y diwrnod y tu allan i furiau’r ysgol, yn yr athrofa yn y Bont, er mwyn gwneud y sesiwn yn fwy anffurfiol a difyr. Roedd y cyflwyniadau i ddosbarthiadau bl.10 ac 11, ac roedden nhw’n ddilyniant i sesiynau blaenorol. Un sesiwn sy’n ddiddorol yw sesiwn barn, lle gofynnir beth yw agwedd y bobl ifanc tuag at y Gymraeg. Gofynnwyd yn y sesiwn yma: “Cytuno neu anghytuno - dylai pob person yng Nghymru siarad Cymraeg” - roedd dros 75% yn cytuno.

Esgob Gôr Ar Chwefror 28ain cafwyd bore ail iaith ar gyfer disgyblion bl.9 Ysgol Esgob Gôr. Roedd yr Adran Gymraeg wedi gofyn i Swyddog Maes y Fenter i siarad gyda’r dosbarthiadau Cymraeg i drafod y Gymraeg a gyrfaoedd. Mae hi’n bwysig siarad gyda blwyddyn 9 yn ystod y cyfnod hwn oherwydd dyma’r cyfnod y gwnânt eu dewisiadau TGAU. Hefyd, mae’r boreuon yma yn rhoi’r cyfle i’r Fenter hyrwyddo’r Gymraeg i flynyddoedd sy’n rhy hen i’r sesiynau amser cinio ail iaith.

Gellifedw Ar Ionawr 30ain, treuliwyd bore yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith a gyrfaoedd ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Uwchradd Gellifedw gan eu bod ar fin gwneud dewisiadau TGAU.

Cynhaliwyd 4 sesiwn gydag oddeutu 30 ym mhob dosbarth. Gobeithio y bydd hyn yn dylanwadu rhywfaint ar eu dewisiadau TGAU.

 

  

Prosiect Treftadaeth

 

Mae Swyddog Cymraeg Morgannwg bron â chwblhau ei gwaith prosiect gyda Mentrau’r de-ddwyrain ar ymchwilio a chofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yn y cymunedau lleol. Mae gwefan a stondin penodol ar gyfer y prosiect ar faes yr Eisteddfod  wrthi’n cael ei drefnu lle bydd modd i’r cyhoedd ddysgu trwy daflen, a DVD am y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn.

 

Y Prosiectau

Prosiect Rhondda Cynon Taf

Codi ymwybyddiaeth pobl leol o’r ffaith fod y bont ym Mhontypridd yn 250 mlwydd oed yn 2006 a’r Anthem Genedlaethol yn 150 mlwydd oed yn 2006. Wrth godi ymwybyddiaeth y bobl leol o’r hanes pwysig yma, hoffwn fod yn codi eu balchder nhw o fod yn Gymry Cymraeg gan obeithio y byddant yn fwy tebygol o ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

Prosiect Caerdydd

Cyfweld gyda thua 10 person o Aelwyd Oedolion sy’n cwrdd yn wythnosol yng Nghaerdydd, gan gofnodi eu hatgofion nhw o dyfu gyda’r iaith a’u profiadau o gymdeithasu drwy’r Gymraeg yn y ddinas dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Hefyd datblygu portffolio o’u lluniau personol fel cofnod i gyd-fynd â’u straeon.

Prosiect Castell-nedd Port Talbot

Casglu gwybodaeth am y tri phapur bro leol sef Clecs y Cwm, Llais a Glo Mân a chreu cyflwyniad pwynt pŵer i’w ddefnyddio mewn cyflwyniadau pwrpasol i ddangos pwysigrwydd y papurau i’r bobl leol.

Gweithio gyda phobl ifanc o Ysgol Gyfun Ystalyfera a ChwmTawe i greu papur bro ‘Ieuenctid’ yn canolbwyntio ar weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg sydd yn digwydd tu allan i’r ysgol yn eu hardaloedd lleol nhw, yn barod ar gyfer Eisteddfod Abertawe 2006.

Gobeithiwn ychwanegu darnau o bapur bro’r Ieuenctid at y papurau bro eraill i geisio helpu codi gwerthiant drwy dargedu mwy o bobl ifanc.

Merthyr

Creu arddangosfa broffesiynol yn dangos Cymreictod Merthyr a phwysigrwydd y capeli Cymraeg yn yr ardal.

Prosiect Caerffili

Creu straeon digidol gan bobl leol i gofnodi eu hacenion lleol unigryw ac i glywed am eu profiadau yn Gymry Cymraeg neu’n ddysgwyr yr iaith yng Nghaerffili.

Prosiect Abertawe

Creu cronfa ddata/banc electronig o wybodaeth ar hanes y Gymraeg yn Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf, yn benodol ar Eisteddfodau ac Addysg Gymraeg yn Abertawe. Felly, dyma greu cofnod gweledol a chlywedol or Gymraeg, e.e. lluniau digidol, sain, a ffilm. Cynllunio gwefan i farchnatar banc, ac er mwyn galluogi iddo gael ei ddefnyddio’n eang gan y gymuned.

Prosiect Y Fro

Trefnu gweithdy Mari Lwyd o fewn grwpiau cymunedol eraill, er mwyn codi eu hymwybyddiaeth nhw o’r ŵyl. Byddwn hefyd yn creu pecynnau gwybodaeth a fydd yn galluogi eraill i ddysgu mwy am hanes a phwysigrwydd traddodiad y Fari Lwyd a’r iaith Gymraeg.

Wedi i bob grŵp gael cyfle i wneud y gweithdy, fe fyddwn yn trefnu un noson derfynol er mwyn dod â’r grwpiau at ei gilydd i wneud y Fari Lwyd.

Prosiect Bro Ogwr

Gweithio gyda grŵp o ddysgwyr y Fenter er mwyn cynhyrchu cardiau addysg am yr ysgolion lleol. Bydd y cardiau gyda’r wybodaeth amdano chwedlau, traddodiadau a hanes yr ardal amdano.

 

 

 

Cylchlythr y Fenter – ‘Awen – Ysbrydoli Cenhedlaeth’

 

Mae’r Fenter ers rhai blynyddoedd wedi bod yn awyddus i ddechrau cylchlythyr a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith amrywiol sy’n cael ei wneud gan y Fenter, yn ogystal ag hyrwyddo gwaith a gweithgareddau pobl ifanc Abertawe. Wedi cael cadarnhad gan y sir y byddant yn ariannu rhifyn cyntaf ein cylchlythyr, aethpwyd ati i gynllunio. Gan ystyried mai’r rhifyn cyntaf oedd hi, teimlwyd bod angen canolbwyntio ar roi cyflwyniad o’r Fenter a’n prif weithgareddau. Rhannwyd cyfrifoldeb y penawdau rhwng swyddogion y Fenter oedd yn cynnwys tudalen Cynnwys, hanes y Fenter, gwaith ieuenctid, @bertaw-e, dysgwyr, a’r Eisteddfod. Cyfieithwyd y gwaith i’r Saesneg cyn ei anfon ymlaen at argraffydd lleol. Rhoddwyd briff i’r argraffydd i greu delwedd ifanc, gyfoes ond digon addas ar gyfer y rhieni. Dosbarthwyd y cylchlythyr i bob disgybl yn ysgolion Cymraeg ac uwchradd y sir trwy’r ysgolion ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn dosbarthu o gwmpas sefydliadau cyhoeddus y sir megis canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac ati yn ogystal â darparu cyflenwad i ysgolion ail iaith y sir. O ran enw’r cychgrawn, wedi ymgynghoriad e-bost gyda’r gwirfoddolwyr, penderfynwyd ar ‘Awen - ysbrydoli Cenhedlaeth’. 

 

                                     

Hyfforddiant

 

Enw

Cwrs

Darparwyr

Lleoliad

Siwan

Sgiliau Cyflwyno

BYIG

Caerdydd

 

Adnabod straen ymysg y gweithlu

Morgan Cole

Abertawe

 

Contractau

WDA

Abertawe

 

Straen yn y gweithle

Morgan Cole

Abertawe

 

Trwyddedu

Llys y Goron

Abertawe

Bedwyr

Awyr Agored

BELA

Abertawe

 

MLA

Urdd

Glan Llyn

 

SPA

Camre Cymru

Deiniolen

Dai

Awyr Agored

BELA

Abertawe

 

MLA

Urdd

Glan Llyn

 

Hyfforddi’r Hyfforddwr

Cyngor

Abertawe

 

SPA

Camre Cymru

Deiniolen

Llywelyn

SPA

Camre Cymru

Deiniolen

 

Hyfforddwr Rygbi Lefel 1

URC

Llandarcy

 

Cynllunio Gwefan

SCVS

Abertawe

 

Rheoli Amser

SCVS

Abertawe

 

Defnyddio camera digidol

Coleg y Drindod

Caerfyrddin

Sionedwyn

Dad Dramateiddio Cymunedau

WCVA

Caerdydd

 

Sgiliau Cyflwyno

BYIG

Caerdydd

 

Cyfranogiad Cymunedol – diethro cymdeithasol 

SCVS

Abertawe

 

Cymunedau a gwaith gymunedol

SCVS

Abertawe

 

Sgiliau gwaith cymunedol

SCVS

Abertawe

 

Sgiliau codi arian

SCVS

Abertawe

 

Cymunedau’n Gyntaf a Dwyieithrwydd’

Menter A Busnes

Caerfyrddin

 

Basic Life Support

Cyngor

Abertawe

 

Cyflwyniad i fonitro a gwerthuso

SCVS

Abertawe

 

Proffilio cymunedol

SCVS

Abertawe

Nia

Sgiliau Cyflwyno

BYIG

Caerdydd

 

Arholiad Cyngor Cyfieithwyr Cymru

CCC

Caerdydd

 

Seminar Cyfieithu

CCC

Gregynog

 

Hyfforddiant Uned San Helen

Cyngor

Abertawe

 

Basic Life Support

Cyngor

Abertawe

Eleri

Hanes llafar

Amgueddfa San Fagan

Abertawe

 

Camera Digidol

Coleg y Drindod

Caerfyrddin

 

Hanes Abertawe

Amgueddfa Abertawe

Abertawe

 

Gweithio yn y Gymuned

SCVS

Abertawe

 

Sgiliau yn y Gymuned

SCVS

Abertawe

 

Cyfranogiad Cymunedol – diethro cymdeithasol 

SCVS

Abertawe

 

Cwrs straeon digidol

Cyngor Caerffili

Caerffili

Emma

Sector Preifat

Bwrdd yr Iaith/Sglein

Aberystwyth

 

 

Diweddaru systemau gweinyddol

 

Arian Parod: Erbyn hyn, mae gwariant arian parod yn cael ei gofnodi mewn dogfen Excel ar y cyfrifiadur.  Mae’r system newydd yn sicrhau cofnod manwl a chywir o bob gwariant ac yn sicrhau bod y sefyllfa real yn adlewyrchu’r cofnodion ar bob cyfrif.

System gyllid newydd Gyda’r nifer o staff wedi cynyddu a mwy o gyllid grantiau gwahanol i’w rheoli, cytunwyd y dylid gwella ein system o gofnodi cyllid. Cawsom gyngor trwy’r CGGA a’i gwasanaeth gyllid cymunedol. Lluniwyd templed i ni gan swyddog gyllid y CGGA, Siôn Eckersley, o system rheoli cyllid effeithiol sy’n cael ei defnyddio gan y CGGA a chyfrifwyr eraill. Mae 3 cyfrif y Fenter, sef y Fenter, Cyfieithu a Hwyl Haf bellach i gyd ar yr un ddogfen. Mae’r system newydd yn cofnodi gwariant pob rhan o’r Fenter, yn cynnwys Treftadaeth, Cymraeg yn y Gymuned, Prif Swyddog a 2 Swyddog Maes, Cyfieithu, Hwyl Haf a.y.b.  Bydd hyn o gymorth wrth gofnodi gwariant grantiau'r Fenter yn enwedig wrth wneud adroddiadau blynyddol.

Diolgelwch staff: Rhoddwyd pwyslais eleni ar sicrhau diogelwch y swyddogion sy’n gweithio gyda’r Fenter gan fod y gwaith yn gofyn am waith yn ystod oriau amghymdeithasol neu gyda’r nos. Lluniwyd system ‘partner’ gyda swyddogion yn tecstio ar ddiwedd diwrnod gwaith os ydynt yn gweithio gyda’r hwyr. Sefydlwyd system o fewn/mas-gofnodi yn yr adeilad fel adnodd rhag ofn bod tân. Hefyd, cafwyd larwm diogelwch gan yr heddlu i’w roi i ferched y swyddfa.

 

 

 

 

 

Ystafelloedd

 

Bu Swyddog Gweinyddol y Fenter yn brysur yn gweinyddu’r defnydd o ystafelloedd Tŷ Tawe yn ystod y flwyddyn (gw. Atodiad A)

 

 

Nawdd

 

Gwnathpwyd ceisiadau llwyddiannus i’r cronfeydd isod yn ystod y flwyddyn:

 

Ffynhonnell

Cronfa

Cyfanswm

Prosiect

Adran ddiwylliant a hamdden Cyngor

Cynlluniau Chwarae

£2,443

Cynlluniau gwyliau 05-06

Partneriaeth Plant a phobl ifanc

Cymorth

£7,200

Clybiau ieuenctid

Adran gorfforaethol Cyngor

Nawdd Cefnogi’r iaith Gymraeg

£25,000

Cyfraniad y sir i gostau cynnal y Fenter fel darparwyr gwasanaethau Cymraeg y sir  

Cronfa Loteri

Arian i Bawb

£5,000

Arddangosfa ar gyfer prosiect treftadaeth

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

 

Grantiau cynnal

£82,000

3 swyddog

Cronfa Loteri

‘Dyma dy gyfle’

£2,938

Prosiect i godi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod ymysg y lleiafrifoedd ethnig

Cronfa BSCDF

Cyfieithu

£44,000

Nawdd i barhau a datblygu gwasanaeth Cyfieithu’r Fenter – Menter Cyfieithu

Rhwydwaith cefnogi Cymunedau’n Gyntaf

Cronfa rhwydwaith gefnogi C yn G

£200

Prosiect Eisteddfod/ lleiafrifoedd ethnig * gw. uchod

 

Ymddiriedolaeth TSB

 

Cronfa Cymunedol TSB

 

£1,200

 

Cyllid i gefnogi cylch Ti a Fi Townhill gyda chyflogi arweinyddion a thalu am leoliad ac yswiriant

 

 

 

Eraill

 

  • Mae ein system e-bost @bertaw-e wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i bwyllgorau apêl Eisteddfod leol sydd wedi gwneud defnydd helaeth o’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Niferoedd wedi cofrestri = 700
  • Cynorthwywyd ‘Gyrfaoedd Cymru’ gyda’u sesiynau cyfweliadau yn Ysgol Gyfun Gwyr. Galluogodd hyn i ddisgyblion oedd yn dymuno cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg i wneud hynny
  • Croesawyd Nia, Edwin, a Rhys o ysgolion Gwyr, Ystalyfera, a’r Brifysgol yn ogystal ag Arwel Hughes ac Emma Francis ar brofiad gwaith gyda ni eleni
  • Mynychwyd cyfarfodydd Partneriaeth Chwarae'r cyngor sir a sicrhau ein lle ar weithgor penderfynu grantiau’r bartneriaeth.
  • Ymatebwyd i Bolisi Iaith y Cyngor sir a chyflwynwyd ein sylwadau ar ffurf cyfleyniad power point.
  • Parhawyd i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol y de-orllewin a’r de-ddwyrain yn ogystal â chyfarfodydd Mentrau Iaith Cymru yn gyson
  • Cyfrannwyd i sesiynau gwerthuso cynllun ‘Mentro Ymlaen’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Mynychwyd cynhadledd y Bwrdd a’r Mentrau yn Llanelli eleni a pharhawyd i adrodd nôl yn brydlon ar dargedau’r Bwrdd.
  • Cefnogwyd dysgwraig i gyflawni gofynion ei chwrs Cymraeg i dreulio 20 awr yn gwirfoddoli gyda’r Fenter.
  • Sicrhawyd stondin am ddim i’r Fenter trwy swyddfa’r Eisteddfod i gydnabod y gefnogaeth gref y mae’r Fenter wedi cynnig i’r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn
  •  Bu’r Fenter yn cynorthwyo cynnal drama gan Theatr Arad Goch yn ysgol Bryn Tawe. Rhoddwyd cymorth i’r ysgol i geisio am nawdd trwy gynllun ‘Noson Allan’ Cyngor y Celfyddydau. Mynychodd 103 o bobl ifanc y ddrama ‘Tafliad Carreg’
  • Cafwyd cynnydd ariannol yng ngrant y Bwrdd eleni (un o 4 Menter yng Nghymru cafodd gynnydd) i gydnabod gwaith da'r Fenter, ond yn benodol i fynd ar gynnydd mewn cyflog i’r swyddogion hynny sy’n cael eu hariannu trwy’r Bwrdd
  • Cafwyd ymweliad gan swyddogion datblygu Bwrdd yr Iaith a swyddog Ewropeaidd i fonitro datblygiad swyddogion prosiectau penodol. Roedd y 2 gyllidwyr yn hapus iawn gyda safon a gwaith y swyddogion dan sylw. 

 

 


Atodiad A

 

Cofnodir enw, rhif cyswllt, nifer y mynychwyr, amser cyrraedd a gadael, manylion bwffe, cofnod o dal a chadarnhad y bwciad.  Mae’r system anfonebu yn cael ei gadw ar y cyfrifiadur.  Ar y cyfrifiadur, mae yna gronfa wahanol ar gyfer pob mudiad sy’n llogi ystafelloedd yn Nhŷ Tawe.  Yn y cronfeydd yma mae copïau electroneg o’r anfonebau yn cael i gadw, tra bod copi caled yn cael i gadw yn ogystal. Mae’r sustem wedi profi i fod yn llwyddiannus ac yn ddealladwy i bawb.

 

Gweler isod cyfanswm yr arian a ddaeth mewn i Dy Tawe yn ystod y flwyddyn trwy logi ystafelloedd (nid yw hyn yn cynnwys cyfraniad Prifysgol Cymru, Abertawe am logi ystafelloedd ddysgu).

 

Defnyddwyr

Cyfanswm cost ystafell

Diod

Bwffe

Eraill

Gwalia

£1720

£403.73

£98

£10

Menter a Busnes

£90

£49.43

£209

 

Meithrin

£55

£6.75

 

 

Cymraeg Gwaith

£210

 

 

 

Cyrenians

£60

 

£85

 

Partneriaeth BEST

£65

 

 

 

Lolfa

£45

£32.77

 

 

Unison

£15

£6.57

 

 

Hyfforddiant Tiwtor

 

£32.12

 

 

Fflach

£70

 

 

 

Partïon Preifat

£260

 

 

 

Homeless Link

£60

£7.51

£63

 

Cymdeithas y Swistir

£65

 

 

 

SYHP

£60

£20

 

 

Tai Hafan

£30

£20

 

 

Prifysgol

£3050

 

 

 

 

 

 

 

 

 

£5855

£578.88

£455

£10

Cyfanswm

 

 

 

£6898.88